Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
National Assembly for Wales |
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau |
Economy, Infrastructure and Skills Committee |
Gradd Brentisiaethau |
Degree Apprenticeships |
EIS(5)DA11 |
|
Ymateb gan Prifysgol Abertawe |
Evidence from Swansea University |
Pwyllgor Sgiliau ac Isadeiledd yr Economi - Ymchwiliad i Brentisiaethau Gradd
Ymateb i Ymgynghoriad gan Brifysgol Abertawe
1. A oes unrhyw faterion wedi dod i'r amlwg yn ystod cyflwyno'r prentisiaethau gradd a pha wersi y gellir eu dysgu o'u cyflwyno?
Mae un o'r prif faterion a nodwyd yn ystod y broses o gyflwyno'r prentisiaethau gradd mewn perthynas ag amserlenni a’r effaith ar ddarparwyr a chyflogwyr. Ni roddodd amseru’r ymgynghoriad, na chymeradwyaeth a chyhoeddi’r ddau fframwaith amser digonol i ddarparwyr ddatblygu a chymeradwyo rhaglenni prentisiaeth gradd. Yn ogystal, cynhaliwyd y broses o wneud ceisiadau am leoedd a ariennir yn rhy hwyr yn ystod y flwyddyn i roi amser digonol i gyflogwyr asesu anghenion hyfforddiant, ymgysylltu â darparwyr a recriwtio staff prentis.
At hynny, roedd y cyhoeddiadau ynghylch dyfarniadau cyllid llwyddiannus i ddarparwyr yn ystod yr haf ac mor agos i ddechrau posib cyflwyno'r rhaglenni ym mis Medi hefyd wedi gwneud y broses o gadarnhau ymrwymiad gan gyflogwyr a darparwyr yn un anodd.
Byddai eglurder ynghylch cynlluniau'r dyfodol a graddefydd amser hwy yn ei gwneud hi'n bosib gwella cynllunio strategol a datblygu adnoddau i gefnogi'r broses o gyflwyno graddau prentisiaeth.
Byddai eglurhad pellach o ran pa wybodaeth yn union y gallai fod ei hangen at ddibenion adrodd am ganlyniadau neu archwilio hefyd yn ddefnyddiol o safbwynt cynllunio ar gyfer y dyfodol.
2. A oedd y broses a'r meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer cymeradwyo cynigion gan ddarparwyr er mwyn cyflwyno prentisiaethau gradd yn foddhaol?
Er y problemau gyda graddfeydd amser, roedd y broses ar gyfer cymeradwyo cynnig gan ddarparwyr yn foddhaol ac fe'i croesawyd o'i chymharu â'r broses sy'n bodoli yn Lloegr.
3. Beth yw eich barn ar y galw am brentisiaethau gradd a sut y dylid rheoli'r galw hwnnw, o ran yr ystod o fframweithiau a galw gan gyflogwyr a dysgwyr?
Mae'n glir bod galw am brentisiaethau gradd ond mae'r galw hwn wedi'i rwystro gan ddiffyg ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gyffredinol o brentisiaethau lefel gradd a'r ddarpariaeth gyfyngedig iawn sydd ar gael o ran sectorau a lefelau astudio. Byddai ymagwedd fwy cydlynus at farchnata prentisiaethau gradd wedi'i hanelu at rieni, ysgolion, y rhai sy'n gadael yr ysgol, gweithwyr a chyflogwyr, yn enwedig BbaChau, yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o brentisiaethau gradd fel llwybr amgen gwerthfawr drwy addysg uwch.
Hyd yn oed yn ystod cam cynnar y cynlluniau peilot hyn, mae diddordeb gan raddedigion prentisiaethau gradd ar gyfer darpariaeth Lefel 7. Mae'r ddau fframwaith sydd ar gael yng Nghymru wedi'u hanelu at sectorau sy'n cyflogi mwy o staff gwrywaidd yn draddodiadol. Er bod tystiolaeth o Loegr a'r Alban yn awgrymu bod nifer y menywod sy'n gwneud prentisiaethau gradd yn cynyddu, mae'r ffocws yng Nghymru wedi bod ar y sectorau gweithgynhyrchu a digidol yn unig, gan esbonio'r tueddiad tuag at gyfranogwyr gwrywaidd.
O gofio'r ystod eang o safonau sydd ar gael yn Lloegr, mae'r cyfleoedd i ddatblygu sgiliau drwy ddysgu lefel gradd sy'n seiliedig ar waith yn gyfyngedig ac yn cyfyngu ar fusnesau Cymru.
4. I ba raddau y dylai gweithgaredd â'r nod o ehangu mynediad fod yn rhan o waith recriwtio i brentisiaethau gradd, a sut gellir defnyddio hyn i sicrhau bod carfannau'n gynrychioladol?
Mae'r Brifysgol yn croesawu'r ffocws ar ehangu mynediad, gan nodi bod y ddarpariaeth hon yn benodol o addas i uwchsgilio gweithwyr presennol. Fodd bynnag, cyflogwyr sy'n arwain y gwaith recriwtio yn hytrach na darparwyr, ac nid oes gan ddarparwyr mewnbwn o bwys i nodweddion y garfan.
Yn ogystal ag "ehangu mynediad", dylid hefyd sylwi bod prentisiaethau gradd yn darparu mynediad "amgen" i addysg uwch, yn enwedig wrth recriwtio dawn newydd.
5. A oes gennych sylwadau am gost y prentisiaethau gradd, sut y caiff prentisiaethau gradd eu cyllido a lefel y cyllid sydd wedi'i neilltuo ar eu cyfer?
Mae lefelau cyllido presennol prentisiaethau gradd yn adlewyrchu'n ddigonol y gost o'u cyflwyno, gan nodi'r gofynion gweinyddol ychwanegol a'r angen i ymgysylltu â chyflogwyr a phrentisiaid yn y gweithle.
Un o'r materion allweddol i ddarparwyr yw'r ansicrwydd ynghylch y cyllid a'r sectorau a fydd yn cael eu cyllido y tu hwnt i'r rhaglen beilot. Mae'r ansicrwydd hwn yn effeithio ar allu darparwyr i gynllunio at y dyfodol a datblygu gweithgaredd prentisiaethau ymhellach.
6. Sut mae cynllun peilot y prentisiaethau gradd wedi effeithio ar brentisiaethau lefelau eraill, os o gwbl?
Mae llwybrau dilyniant i brentisiaethau gradd yn hyblyg ac maent yn galluogi cydnabyddiaeth o'r dysgu a wneir drwy brentisiaethau ar lefelau 4 a 5. Ar gais cyflogwyr, mae'r Brifysgol yn parhau i gynnig prentisiaeth uwch mewn Peirianneg/Gweithgynhyrchu Uwch, gan gefnogi'r syniad bod galw am ddatblygu sgiliau ar ystod o lefelau.
7. A ddylid newid unrhyw agwedd ar yr ymagwedd at gyflwyno prentisiaethau gradd ac os felly, beth ddylai'r cyfeiriad fod yn y dyfodol?
Byddai'n ddefnyddiol i'r sector gael ymagwedd fwy cydlynus ac ysgogiad gan Lywodraeth Cymru o ran prentisiaethau gradd, gan gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth er mwyn denu mwy o gyflogwyr a phrentisiaid.
Byddai gwella'r graddefydd amser ar gyfer y broses gwneud ceisiadau a dyrannu cyllid yn galluogi'r sector i gynllunio'n effeithiol a chyflawni'r broses o gyflwyno ac ymgysylltu â busnesau yn llwyddiannus.
Dylai cynllun tymor hwy gyda darpariaeth ar gyfer carfannau lluosog, sy’n cynnwys meysydd pwnc a lefelau newydd posib, y tu hwnt i 2020/21 a dyrannu cyllid, fod yn sail i gyfeiriad prentisiaethau gradd yng Nghymru yn y dyfodol.